CREU GWIR FEL GWYDR O FFWRNAIS AWEN
IN THESE STONES HORIZONS SING
Y geiriau ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru yw fy ngherdd fwyaf. Rwy’n dwlu ar y ffaith bod y geiriau’n cyhoeddi fod yr awen yn siarad yn ddemocrataidd, mewn aml leisiau ar draws gorwelion, i greu gofod ac amser i’n gilydd.
Cyfansoddais y geiriau ar flaen Canolfan Mileniwm Cymru er mwyn cyfleu uchelgais ddiwylliannol y sefydliad. Fe’m hysbrydolwyd gan orffennol diwydiannol Cymru a chan gofio mai Caerdydd, ar un adeg, oedd prif borthladd glo y byd.
Rown i’n awyddus i weld yr arysgrifen yn adlewyrchu pensaerniaeth yr adeilad. Roedd cromen gopr y theatr yn fy atgoffa o ffwrneisi gorffennol diwydiannol Cymru, ac hefyd o Bair Ceridwen, crochan lle cafodd y bardd cynnar Taliesin ei awen. Roedd cael y geiriau mewn ffenestri gwydr yn cynnig delwedd o farddoniaeth i mi: dylai fod yn ddigon clir i daflu golau y tu mewn a thu allan i adeilad, yn cynnig golwg hollol neilltuol a lleol ar y byd; dylai ddatgan gwirionedd sydd yn dryloyw, yn grefftus ond hefyd yn fregus, ac yn fwy gwerthfawr o’r herwydd.
Roedd hi’n bwysig i fi nad oedd geiriau Saesneg yr arysgrifen yn gyfieithiad o’r Gymraeg, ond eu bod yn cyfleu eu neges eu hunain. Roedd strata llechi blaen yr adeilad yn gwneud i mi feddwl am y gorwelion ychydig y tu hwnt i Benarth. Bu’r môr yn gyfrwng i Gaerdydd allforio glo i bedwar ban a mewnforio’r byd at y ddinas. Bydd meini’r theatr yn canu’n llythrennol gydag opera, sioeau cerdd a cherddorfeydd, ac roeddwn yn awyddus i gyfleu’r syniad o ystafell enfawr ryngwladol yn cael ei chreu gan gerddoriaeth’.
Gwefan: Canolfan Mileniwm Cymru