Skip to content
Home » Medeia

Medeia

Gwyneth Lewis: Medeia

‘Rwy’n cerdded lôn greulon’.

Mae Medeia – wyres yr Haul, yn briod a gŵr meidrol, Iason. Er iddi ddefnyddio ei doniau hud i’w helpu, mae e’n ei bradychu hi a’u meibion. Yn ei hargyfwng, mae Medeia’n troi at ei phwerau goruwchnaturiol – gyda chanlyniadau erchyll.

Dyma drasiedi fawr Euripides am chwant a marwolaeth.

Comisiynwyd y cyfieithiad gan CBAC a Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma’r drydedd ddrama i’r bardd ei chyhoeddi – y ddwy arall yw: Y Storm (2012) cyfieithiad o The Tempest Shakespeare a lwyfannwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru, a drama wreiddiol, Clytemnestra, a berfformiwyd gan Sherman Cymru (2012).

Prynwch y llyfr