Skip to content
Home » Treiglo

Treiglo

Gwyneth Lewis: Treiglo

Dyma’r gyfrol gyntaf o gerddi Cymraeg gan Gwyneth Lewis ers dros bymtheng mlynedd. Rhwng cloriau Treiglo, mae’r bardd yn myfyrio ar y newidiadau bychain mewn oes o berthynas rhwng tad a merch. Dyma gyfrol am alar, am fywyd, ac am ddod i adnabod eich hun a’r bobl agosaf atoch.

Mae iaith wastad wedi bod yn thema ganolog i holl waith Gwyneth, ac y mae treiglad amser, ac effaith hynny ar yr iaith Gymraeg yn dal i gydio yn nychymyg y bardd yn y casgliad hwn.

Yn ôl Gwyneth, y treigladau yw rhai o bleserau mwyaf trafferthus yr iaith Gymraeg ac yn y gyfrol hon, mae’n defnyddio egwyddor y treigladau, y meddal, llaes, trwynol a chaled i fyfyrio ar golli ei thad a’i Gymraeg Beiblaidd, coeth.

Mae mynyddoedd yn symud i ganol y môr, dyn ifanc yn mynd i’r llynges, yn prynu moto-beic, yn priodi ac yn magu dwy o ferched ac yn gwrando ar gerddoriaeth gyda nhw.

Yna, mae’r gŵr hwnnw’n heneiddio. Ar yr un pryd, mae llongau’n cyrraedd ac yn gadael porthladd Caerdydd a’r dychymyg yn cael ei liwio gan berthnasau o fewn y teulu a’r ddinas o amgylch. Ac yna digwydd y treiglad mwyaf, sef marwolaeth, y trawsnewidiad olaf un.

Meddai Gwyneth Lewis: ‘Mae’r treigladau rhwng geiriau yn y Gymraeg yn athronyddol, yn ogystal â bod yn ramadegol.

Yn yr un ffordd, ry’n ni’n newid, yn ôl ein perthynas a’n teulu a’n cymdeithas, wrth i ni rwbio a chwffio yn erbyn ein gilydd.

Myfyrdod yw’r gyfrol hon am dreigl y cenedlaethau, wrth i fi wylio fy nhad yn heneiddio a marw.

Rwy’ hefyd yn meddwl am y newid yn y Gymraeg wrth i’r hen do gyrraedd oed yr addewid ac wrth i ni golli cysylltiad yn raddol gyda phrofiadau’r Ail Ryfel Byd a’r diwygiad Anghydffurfiol’.

‘Campwaith… o gyfrol…cerddi rhyfeddol’.

Angela Graham, Cardiff Review

‘Dyma fardd sy’n gwneud i bob gair gyfrif’.

Meg Elis, Barddas

‘Mae unrhyw gyfrol o farddoniaeth o law Gwyneth Lewis yn ddigwyddiad o bwys. A hynny am y gwyddoch y bydd y cerddi hyn yn wahanol iawn i unrhyw gerddi eraill a ddarllenwch yn Gymraeg. Cerddi sy’n cerdded i lawr meingefn y darllenydd yw’r rhain, yn gwynto o asbri ieuenctid a henaint, o alar a hiraeth melys’.

Menna Elfyn, Gwales

‘Pathos, hiwmor, allgaredd a cholled yw elfennau hanfodol Treiglo. Mewn byd llenyddol cyfoes sydd ag obsesiwn â’r ddeuawd mam a merch, ceisio dirnad yr ymwneud rhwng tad a merth y mae Treiglo. Ymwrthoda Lewis ag unrhyw estheteg sy’n rhoi awgrym o sentimentaleiddiwch. Mae’n dogfennu gyda didwylledd rhyfeddol ac argyhoeddiad yr hyn a olygai iddi ddweud wrth ei thad ‘Byddwn ni gyda chi bob cam’.

Nerys Williams, O’r Pedwar Gwynt

Prynwch y llyfr | Buy this book