Tair mewn Un

Tair mewn Un

Cyhoeddir Tair mewn Un i ddathlu penodiad Gwyneth Lewis fel Bardd Cenedlaethol Cymru. Mae'r teitl yn cyfeirio at y tair cyfrol o gerddi a gyhoeddwyd gan Gwyneth ers 1990, gwaith sydd, erbyn hyn, allan o brint.

Cynhwysir 'Sonedau Redsa' i gyd yma, sef y gyfres o sonedau sy'n deillio o'r cyfnod a dreuliodd fel newyddiadurwraig yn Ynysoedd y Philippine, ac a gyhoeddwyd yn ei chyfrol gyntaf, Sonedau Redsa a Cherddi Eraill (1990). Cyflwynodd y sonedau hyn yn rhodd i'w merch fedydd, Maria Redsa ar ôl penderfynu 'y byddai cyfres o gerddi yn olrhain hanes ei gwlad mewn iaith seml, addas i blentyn, yn anrheg fedydd dda i Redsa.'

Ei hail gyfrol oedd Cyfrif Un ac Un yn Dri (1996). 'Yn y gyfrol hon,'meddai, 'ceisiais ddarganfod y gwahanol fathau o farddoniaeth sy'n bosibl i'w hysgrifennu yn y Gymraeg ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif.'

Cyoeddwyd Y LLofrudd Iaith ym 1999 ac enillodd y gyfrol Wobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. 'Fe'i hysgrifennais fel ymateb i ddatganiadau byrfyfyr a wnaed i ddathlu troi'r llanw yn y frwydr i achub yr iaith Gymraeg,'meddai.

(Delwedd y clawr: Trwy'r Coed III gan Eleri Mills)

Barddas, 2005

Bookmark this page / Llyfrnodi gyda